This page is also available in
English
Rhoddwyd Credyd Cynhwysol Gwasanaeth Llawn ar waith yn Rhondda Cynon Taf ddiwedd y llynedd. Mae wedi cyflwyno nifer o newidiadau newydd i’r system fudd-daliadau bresennol, er enghraifft disodli nifer o fudd-daliadau cyfarwydd yn ogystal â newid y ffordd yr ydych yn hawlio trwy wneud popeth yn ‘ddigidol’ ac ‘ar-lein yn unig’.
Roeddem yn dymuno rhannu ychydig o newyddion arall gyda chi i wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch gennych cyn i chi wneud cais. Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’n ei olygu i fod ar Bremiwm Anabledd Difrifol nawr bod Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno.
Yn gyntaf, beth yr ydym ni’n ei olygu wrth Premiwm Anabledd Difrifol?
Swm ychwanegol o arian yw Premiwm Anabledd Difrifol, sy’n cael ei gynnwys ynghyd â’ch budd-daliadau eraill i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol anabledd. Ceir dwy wahanol gyfradd yn dibynnu a ydych yn hawlio fel person sengl neu’n rhan o gwpl.
Fel person sengl, byddwch yn cael £65.85 bob wythnos a byddwch yn cael £131.70 bob wythnos fel cwpl.
Astudiaeth Achos
Yn ddiweddar, cynorthwyodd aelod o Dîm Cyngor Ariannol Trivallis gwpl gyda hawlio eu budd-daliadau a sylwyd nad oeddent yn hawlio’r Premiwm Anabledd Difrifol. Ychwanegwyd hwn at eu budd-daliadau yn ôl-weithredol a derbyniwyd cyfandaliad wedi’i ôl-ddyddio o dros £12,000 ganddynt, ac erbyn hyn maent yn cael £131.70 yr un bob wythnos yn ogystal â’u budd-daliadau presennol.
Pam mae hyn yn bwysig?
O dan Gredyd Cynhwysol, nid yw’r Premiwm Anabledd Difrifol yn bodoli. Mae hyn yn golygu na all unrhyw un sydd â hawl i dderbyn y Premiwm Anabledd Difrifol hawlio Credyd Cynhwysol.
Fodd bynnag, os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol ac yna’n cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn ddiweddarach, yna bydd yr arian ychwanegol yn cael ei gynnwys yn eich hawliad Credyd Cynhwysol wedyn yn rhan o’r ‘diogelwch trosiannol’. Swm atodol yw hwn i sicrhau bod neb yn waeth ei fyd wrth symud i Gredyd Cynhwysol.
Sut ydw i’n gwneud yn siŵr fy mod yn dal i dderbyn y Premiwm Anabledd Difrifol?
Er mwyn cael y Premiwm, mae’n rhaid eich bod yn hawlio un o’r budd-daliadau cysylltiedig ag incwm hyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn wedi’i Warantu
- Budd-dal Tai
AC…mae’n rhaid eich bod yn cael un o’r budd-daliadau ychwanegol hyn hefyd:
- Lwfans Gweini (neu Lwfans Gweini Cyson wedi ei dalu gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
- Elfen Ofal Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf
- Elfen Bywyd Beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
A oes unrhyw beth arall y mae angen i mi ei wybod?
Ceir ychydig o bethau eraill y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dyma restr o ofynion ar gyfer person sengl a chwpl…
Os ydych yn sengl:
- Ni ddylai neb fod yn cael Lwfans Gofalwr neu Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi, ac
- Mae’n rhaid mai chi yw’r unig oedolyn ar yr aelwyd
- Os ydych yn byw gydag oedolyn arall nad yw’n bartner i chi, efallai y bydd gennych hawl i Bremiwm Anabledd Difrifol o hyd
Os ydych mewn cwpl, mae’n rhaid eich bod chi a’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau hyn:
- Lwfans Gweini (neu Lwfans Gweini Cyson wedi ei dalu gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
- Elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf
- Elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Ni ddylai neb fod yn cael Lwfans Gofalwr neu Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi
- Os yw rhywun yn cael Lwfans Gofalwr neu Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu am ddim ond un ohonoch, gallwch ddal i gael y Premiwm Anabledd Difrifol ar y gyfradd sengl.
- Mae’n rhaid mai chi yw’r unig oedolion ar yr aelwyd
- Gallwch weithiau gael y Premiwm Anabledd Difrifol hyd yn oed os oes oedolion eraill ar yr aelwyd
A wnaethoch chi hawliad Credyd Cynhwysol cyn eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon?
Os oedd gennych hawl i Bremiwm Anabledd Difrifol ac y gwnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol cyn 16 Ionawr 2019, peidiwch â phoeni, oherwydd byddwch yn cael eich digolledu yn y dyfodol gan fod hyn yn cael ei adolygu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth yr ydych wedi ei darllen heddiw, cysylltwch â’n Tîm Cyngor Ariannol naill ai drwy e-bost neu dros y ffôn. Mae gan y tîm ddealltwriaeth wych o Gredyd Cynhwysol a bydd yn gallu eich cynorthwyo gyda’ch hawliadau a’ch helpu i nodi’r hyn y mae gennych hawl iddo.
LINELLAU CYMORTH