This page is also available in
English
Pam mae angen cyfrif banc arnoch chi?
Mae nifer o fanteision i fod â chyfrif banc; byddwch yn gallu hawlio CC yn llwyddiannus, a byddwch hefyd yn gallu trefnu debydau uniongyrchol a fydd yn ei gwneud yn llawer haws i chi dalu biliau eich aelwyd, eich costau byw a rheoli eich arian.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o daliadau y gallwch eu derbyn i’ch helpu chi ar Credyd Cynhwysol; er enghraifft rhagdaliad.
Benthyciad bach byrdymor yw rhagdaliad a gaiff ei dalu i mewn i’ch cyfrif i’ch helpu chi ag unrhyw gostau ychwanegol a allai fod gennych yn ystod yr wythnosau cyn eich taliad CC cyntaf. Gallwch ddarllen rhagor am ragdaliadau a sut i wneud cais am un ar-lein yn ein harweiniad i ragdaliadau.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi gyfrif banc eto, mae’n syml iawn i agor un naill ai yn eich cangen stryd fawr leol, ar-lein neu dros y ffôn.
Yma i helpu…
Os ydych chi’n denant tai cymdeithasol ac yn chwilio am gymorth mae rhestr o wybodaeth gyswllt ar gyfer nifer o Gymdeithasau Tai ar ein llinell gymorth a’n tudalen gymorth. Mae’n wych os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch chi a’ch bod eisiau gwybod mwy am y newidiadau.
Cewch hefyd ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 9344. Bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am tan 6.00pm. Defnyddiwch y rhif hwn i roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich hawliad.